Cynllun Blodyn Haul Anabledau Cudd

Beth yw'r Blodyn Haul Anableddau Cudd

Mae anabledd cudd yn anabledd nad yw'n weladwy neu'n amlwg ar unwaith trwy siarad â rhywun ond a all gael effaith sylweddol ar fywyd rhywun. Mae ‘anableddau cudd’ yn derm ymbarél sy’n dal sbectrwm o anableddau, a all gynnwys awtistiaeth, epilepsi, anafiadau ymennydd a gafwyd, cyflyrau iechyd meddwl, anawsterau dysgu, namau synhwyraidd a salwch cronig.

 

Ers ei lansio yn 2016, helpodd Blodyn Haul Anableddau Cudd i godi ymwybyddiaeth o anableddau cudd. Fe'i mabwysiadwyd yn fyd-eang gan brif feysydd awyr a lleoliadau ac yn y DU gan lawer o archfarchnadoedd, gorsafoedd rheilffordd a choetsys, cyfleusterau hamdden, y GIG, nifer o wasanaethau heddlu, tân ac ambiwlans, a nifer cynyddol o fusnesau bach a mawr a sefydliadau.

 

Mae gwisgo Blodyn Haul Anableddau Cudd yn dangos yn gynnil i bobl o amgylch y gwisgwr y gallai fod angen cymorth ychwanegol, help neu ychydig mwy o amser arnynt.

Ble alla i gasglu laniard blodyn haul?

Mae Prifysgol De Cymru yn falch o gefnogi Blodyn Haul Anableddau Cudd. Mae laniards gwddf blodyn haul ar gael yn rhad ac am ddim i staff a myfyrwyr PDC, a gellir eu casglu o ddesgiau Ardal Gynghori’r Campws.

Nid oes rhestr gymwys o anableddau ar gyfer y cynllun. Nid yw gwisgo'r laniard yn rhoi hawl i'r gwisgwr gael unrhyw beth heblaw am dynnu sylw at y ffaith bod ganddo/ganddi anabledd cudd ac efallai y bydd angen cymorth arno/arni. Mae gwisgo Blodyn Haul Anableddau Cudd yn ffordd synhwyrol o ddewis gwneud yr anweledig yn weladwy. Os oes gennych chi anabledd cudd ac yn teimlo y byddech chi'n elwa o wisgo laniard Blodyn Haul Anableddau Cudd, mae'r Brifysgol yn eich annog i wneud hynny.

Laniards blodyn haul ac eithriadau gorchuddion wyneb.

Ni chaiff pawb sy'n gwisgo laniard blodyn haul eu heithrio rhag gwisgo gorchudd wyneb yn ystod pandemig COVID-19.  Fodd bynnag, i rai unigolion mae'r laniard blodyn haul yn cynnig ffordd gynnil o adael i bobl wybod bod ganddynt anabledd cudd ac felly gallant gael eu heithrio. Os oes gennych chi anabledd cudd ac yn teimlo y byddech chi'n elwa o wisgo laniard Blodyn Haul Anableddau Cudd, mae'r Brifysgol yn eich annog i wneud hynny.