Mentora Arbenigol

Beth yw Mentora Arbenigol?

Mae Mentor Arbenigol yn darparu cymorth un-i-un wedi'i deilwra i fyfyrwyr ag awtistiaeth a rhai cyflyrau iechyd meddwl. Rôl y mentor yw eich galluogi i adnabod y rhwystrau i ddysgu, eich grymuso i ddatblygu strategaethau a fydd yn rheoli eich lles, a chwrdd â'ch nodau academaidd a phersonol.

Beth sy'n digwydd mewn sesiwn fentora?

Mae sesiynau mentora yn gydweithredol a byddant yn rhoi cyfle i chi drafod materion neu bryderon ac archwilio strategaethau cymorth i'w goresgyn. Mae'r sesiynau yn amser penodol, ffocysedig i ystyried eich anghenion tra yn y brifysgol.

Mae'n anochel y bydd eich anghenion yn newid dros gyfnod eich cwrs felly byddwch chi a'ch mentor yn adolygu cynlluniau gweithredu a nodau yn rheolaidd, yn ogystal ag adolygu eich cynnydd, i gadw golwg ar eich amcanion.

Mae sesiynau mentora i chi eu defnyddio os bydd eu hangen arnoch; felly byddwch yn trafod gyda'ch mentor pa mor aml yr hoffech gael y sesiynau ac a oes angen unrhyw seibiannau cymorth arnoch.

Mae enghreifftiau o’r cymorth arbenigol a ddarperir yn cynnwys:

  • Eich galluogi i reoli eich lles
  • Datblygu strategaethau wedi'u teilwra
  • Adeiladu eich gwydnwch trwy archwilio ystod o offer gwybodus seicoaddysgol
  • Cymorth emosiynol gyda ffocws ar hwyluso twf ymwybyddiaeth emosiynol a defnyddio strategaethau lles
  • Trefnu, rheoli amser, a blaenoriaethu
  • Gweithio ar eich hyder a'ch hunan-barch
  • Datblygu eich cymhelliant a'ch morâl
  • Sefydlu cydbwysedd astudio/gwaith/bywyd
  • Sefydlu a chynnal eich sgiliau cymdeithasol
  • Cyfeirio at wasanaethau priodol yn fewnol ac yn allanol
  • Eich galluogi i eiriol drosoch eich hun

Cwrdd â'ch mentor

Bydd mentor yn cysylltu â chi cyn gynted ag y bydd eich corff ariannu yn cymeradwyo'r nifer sefydlog o sesiynau a chaiff y manylion hyn eu trosglwyddo i'n gwasanaethau. Bydd y cyfarfod cyntaf gyda'ch mentor yn gyflwyniad i fentora ac i sefydlu pa gymorth sydd ei angen arnoch.

Mae datblygu perthynas waith dda gyda’ch mentor yn bwysig yn enwedig gan y gallech ddefnyddio’r gwasanaeth yn y tymor hir, felly rydym yn ceisio dod o hyd i gydberthynas dda gan fod yn rhaid iddo weithio i chi a’r mentor. Gall hyn fod yn rhywbeth y byddwch chi a'ch mentor yn ei drafod ac efallai y byddwch yn gallu newid mentoriaid os gwelwch nad ydych yn ffit da.

Byddwch yn ymwybodol, fel llawer o'r gwasanaethau eraill, y bydd gennym amseroedd prysurach ac efallai y bydd rhestr aros. Byddwch yn dal i allu cael mynediad at wasanaethau eraill a allai fod o gymorth yn ystod y cyfnod hwn.

Ydw i'n gymwys ar gyfer Mentor Arbenigol?

Ariennir Mentora Arbenigol fel arfer gan y DSA (Lwfans Myfyrwyr Anabl). Mae hon yn ffynhonnell gyllid nad yw’n dibynnu ar brawf modd gan y corff cyllido perthnasol (e.e. Student Finance Wales) a neilltuir nifer penodol o oriau’r flwyddyn i chi.

Os nad ydych eisoes wedi gwneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA) ac yn meddwl y gallech fod yn gymwys, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan Gwasanaeth Anabledd PDC. Gellir dod o hyd i'r ffurflen a mwy o wybodaeth ar wefan y DSA.

Mae'n bosibl y bydd myfyrwyr rhyngwladol neu fyfyrwyr o'r DU nad ydynt yn gymwys i gael Lwfans Myfyrwyr Anabl hefyd yn gallu cael mynediad at fentora. Gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Anabledd a gwneud apwyntiad i weld Cynghorydd i drafod hyn. Er mwyn gwneud y mwyaf o hygyrchedd i gynifer o fyfyrwyr â phosibl, rhaid inni gyfyngu ar nifer y sesiynau mentora sydd ar gael bob blwyddyn.