Cymorth 1-1

Nod y Gwasanaeth Anabledd yw lleihau unrhyw anawsterau sy'n gysylltiedig ag anabledd y gallech eu profi trwy sicrhau bod gennych fynediad at gymorth addysgol 1-1 priodol yn ystod eich astudiaethau (Os ydych chi'n astudio mewn coleg partner Prifysgol De Cymru, cysylltwch â'ch coleg). Gellir ariannu cymorth addysgol 1-1 arbenigol fel rhan o becyn cymorth Lwfansau i Fyfyrwyr Anabl (DSA), ochr yn ochr ag offer a meddalwedd arbenigol sy'n gysylltiedig ag anabledd (NB. Bydd Cyllid Myfyrwyr yn penderfynu pwy sy'n darparu cymorth a ariennir gan yr DSA a gall ddewis cyflenwyr allanol i ddarparu cymorth).

 I gael gafael ar gymorth tiwtorial, bydd angen i chi gwrdd â Chynghorydd Anabledd.  Dyma gyfle i drafod eich gofynion ac edrych ar unrhyw gyllid a allai fod ar gael i'ch cefnogi fel Lwfansau Myfyrwyr Anabl (DSA)

Noder: Mae'r cymorth a ddarperir drwy'r Brifysgol a / neu Lwfansau Myfyrwyr Anabl wedi'i gynllunio i fodloni gofynion cymorth addysgol. Os oes angen cymorth gofal personol arnoch o ganlyniad i anabledd, bydd angen i chi wneud y trefniadau angenrheidiol trwy eich Gwasanaethau Cymdeithasol lleol.

notes

Cymryd nodiadau a Chymorth Cefnogi Gwaith

Gall ein staff cymorth proffesiynol ddarparu cymorth gyda nifer o weithgareddau i'ch cefnogi yn ystod eich astudiaethau:

  • Cymryd nodiadau
  • Cymorth Llyfrgell
  • Cymorth Cefnogaeth Ymarferol / Cymorth Lab neu Weithdy
  • Cynorthwyydd Astudio

Dylech drafod eich gofynion gyda Chynghorydd Anabledd a dyfeisio amserlen o ba bryd y mae angen cefnogaeth arnoch, dylid rhoi hyn i'r Tîm Cymorth Anabledd [email protected] (01443 482798)

Mewn rhai amgylchiadau, gellir cymryd nodiadau yn eich absenoldeb.  Rhoddir ystyriaeth i natur eich anabledd / iechyd, effaith debygol peidio â chael nodiadau ar eich astudiaeth barhaus a ffactorau perthnasol eraill.

mailto:[email protected]

Sign Language

Cymorth BSL (Iaith Arwyddion Prydain)

Mae gan y Gwasanaeth Anabledd gysylltiadau agos â rhwydwaith o ddehonglwyr BSL proffesiynol â chymwysterau uchel a gall gydlynu cymorth BSL ar gyfer myfyrwyr PDC.  Os oes arnoch angen cymorth cyfathrebu BSL yn y Brifysgol, dylech drafod eich gofynion gyda Chynghorydd Anabledd a dyfeisio amserlen o ba bryd y mae angen cefnogaeth arnoch, dylid rhoi hyn i'r Tîm Cymorth Anabledd [email protected] (01443 482798)


Canllawiau ychwanegol i fyfyrwyr sy'n defnyddio cefnogaeth laith Arwyddion Prydain (BSL)/Gweithiwr Cymorth Cyfathrebu (CSW) ar gyfer sesiynau addysgu ar-lein.

Canllawiau ar gyfer Dehonglwyr BSL/Gweithwyr Cymorth Cyfathrebu: Cefnogi myfyrwyr sydd angen BSL/CSW mewn amgylchedd ar-lein.

study 3

Cymorth Sgiliau Astudio Arbenigol

Os cawsoch ddiagnosis o Anawsterau Dysgu Penodol (SpLD) fel dyslecsia neu os oes gennych dystiolaeth o gyflwr meddygol, efallai y byddwch yn gymwys i gael Cymorth Sgiliau Astudio Arbenigol.  Pwrpas y cymorth hwn yw rhoi'r sgiliau i chi ddod yn ddysgwr mwy annibynnol a hyderus, er mwyn bodloni gofynion a safonau academaidd eich cwrs. Gall hyn gynnwys:

  • Dadelfennu cwestiynau aseiniad
  • Cynllunio a strwythuro aseiniadau
  • Rheoli amser
  • Strategaethau i reoli materion gyda sylw a chof
  • Canllawiau ar ddefnyddio technoleg gynorthwyol
Nid yw tiwtoriaid sgiliau astudio yn ....

  • Cywiro bob gwall sillafu neu ramadeg unigol er bod tiwtoriaid yn rhoi arweinaid ar sut i wneud hyn.
  • Gwait prawfddarllen (gall tiwtoriaid helpu i ddatblygu sgiliau darllen proflenni).
  • Dod o hyd i ddeunyddiau ymchwil ar gyfer myfyrwyr 
  • Newid cynnwys gwaith myfyrwyr (cyfrifoldeb y myfyriwr yw'r holl waith a gyflwynir a rhaid iddo fod yn waith y myfyriwr ei hun).

Os cawsoch eich argymell yn Diwtor Sgiliau Astudio Arbenigol, byddwch yn derbyn e-bost gan aelod o'r tîm i drefnu eich apwyntiad cychwynnol. Gweler y canllawiau ar reoli eich apwyntiadau. Gwneir apwyntiadau dilynol gyda'ch tiwtor ar ddiwedd pob sesiwn.

Os cawsoch eich argymell yn Diwtor Sgiliau Astudio Arbenigol, ac os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau am y gwasanaeth, trafodwch â'ch Tiwtor Sgiliau Astudion Arbenigol neu cysylltwch â [email protected] .

Mentor Service

Cymorth Mentoriaid

Mae Mentoriaid Arbenigol yn darparu cymorth un-i-un i fyfyrwyr â Chyflyrau Iechyd Meddwl a / neu Awtistiaeth (ASD / ASC), gan eu helpu i gyflawni eu potensial llawn yn y Brifysgol. Gall ein Mentoriaid Arbenigol ddarparu cefnogaeth gyda:

  • Trefniadaeth, rheoli amser a blaenoriaethu
  • Hwylian
  • Osgoi / cydoeddi
  • Hyder, hunan-barch a gwydnwch emosiynol
  • Cymhelliant a morâl
  • Sefydlu cydbwysedd astudio / gwaith / bywyd
  • Rheoli Pryder
  • Rheoli Straen
  • Cyfathrebu Effeithiol
  • Sefydlu a chynnal perthnasoedd cymdeithasol
  • Cyfeirio at wasanaethau mewnol ac allanol eraill

Os argymhellwyd cefnogaeth Mentora Arbenigol i chi, byddwch yn derbyn e-bost gan aelod o'r tîm i drefnu eich apwyntiad cychwynnol. Gweler y canllawiau ar reoli eich apwyntiadau. Gwneir apwyntiadau dilynol gyda'ch tiwtor ar ddiwedd pob sesiwn.

Os argymhellwyd Mentor Arbenigol i chi a bod gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau am y gwasanaeth, trafodwch â'ch Mentor neu cysylltwch â [email protected] .

Gwybodaeth yn ymwneud ag absenoldebau

 

Mae yna adegau pan fydd yr annisgwyl yn effeithio arnom i gyd!  Os bydd hyn yn digwydd ac nad ydych yn gallu bod yn bresennol, mae angen o leiaf 24 awr o rybudd arnom.  Dylai hyn fod drwy'r dull cyswllt y cytunwyd arno rhyngoch chi a'r Gwasanaeth Anabledd.  Os byddwch yn rhoi llai na 24 awr o rybudd, codir tâl ar eich corff ariannu. Mae Cyllid Myfyrwyr hefyd yn gofyn i ni roi rheswm iddynt am eich absenoldeb, felly gofynnir i chi am hyn.  Dim ond 2 absenoldeb o'r fath y caniateir hawlio amdanynt bob tymor.

 

Gofynnir i chi gadarnhau'r cymorth a gawsoch yn rheolaidd, naill ai yn ysgrifenedig neu drwy e-bost.  Os ydych chi'n hapus eich bod wedi derbyn y cymorth a restrir, mae angen e-bost neu lofnod cyflym.  Os na, rhowch wybod i ni fel y gallwn edrych i mewn i'r gwall.

Cymorth gofal personol 

Os oes angen cymorth gofal personol arnoch o ganlyniad i anabledd, bydd angen i chi wneud y trefniadau angenrheidiol trwy eich Gwasanaethau Cymdeithasol lleol.