Wythnos Ymwybyddiaeth Byddardod 2023

Deaf-Awareness

Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Byddardod (1 - 7 Mai 2023) yn gyfle i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r heriau sy’n wynebu’r gymuned fyddar. Thema eleni yw 'Mynediad at Gyfathrebu', sy'n amlygu'r angen i chwalu'r rhwystrau cyfathrebu sy'n atal pobl fyddar rhag cymryd rhan lawn mewn cymdeithas.

Mae pob person byddar yn wahanol. Gall lefelau colli clyw, dulliau cyfathrebu, a'r defnydd o dechnoleg clyw yn amrywio'n fawr. Mae’n bwysig cofio hyn a darganfod beth yw anghenion unigol pawb, er mwyn i chi allu bod mor gynhwysol â phosibl, ym mhopeth yr ydych yn ei wneud gyda’ch gilydd.

Siarad â'ch ffrindiau byddar

Mae'r National Deaf Children's Society yn argymell yr awgrymiadau gwych hyn ar gyfer cyfathrebu â'ch ffrindiau byddar:

  1. Cael eu sylw. Ceisiwch chwifio neu dapio eu hysgwydd.
  2. Siaradwch fel arfer. Ddim yn rhy araf nac yn rhy uchel.
  3. Wynebwch nhw pan fyddwch chi'n siarad. Gwnewch yn siŵr eu bod yn gallu gweld eich ceg.
  4. Defnyddiwch eich dwylo. Pwyntiwch at yr hyn rydych chi'n siarad amdano.
  5. Daliwch ati! Ceisiwch anfon neges destun ar eich ffôn neu ysgrifennu neges i lawr.

Bod yn fwy byddar-gyfeillgar

P’un a ydych chi’n ffrind, yn berthynas neu’n gweithio gyda phobl fyddar, mae llawer o bethau syml y gallwch chi eu gwneud i fod yn fwy byddar-gyfeillgar. Edrychwch ar y fideo isod i ddarganfod sut.


Rhannwch eich stori

Os ydych chi eisiau cymryd rhan yn Wythnos Ymwybyddiaeth Byddardod, rhannwch eich gweithgaredd ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnodau #lnclusionDeafness a #MyDeafStory.

Adnoddau pellach

Anabledd yn PDC - i archwilio'r adnoddau a'r cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr byddar yn PDC

British Deaf Association – ar gyfer cymorth i ddeall Iaith Arwyddion Prydain.

Royal Association for Deaf People - ar gyfer adnoddau i bobl fyddar, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol a mynediad i sgwrs fyw Lles RAD.

Sianel Youtube National Deaf Children's Society - ar gyfer awgrymiadau Iaith Arwyddion Prydain syml a blogiau fideo gan bobl ifanc byddar.

Canllaw Ymwybyddiaeth o Fyddardod o Lyfrgell PDC

#Anabledd #unilife_cymraeg