Eich Stori

Rebecca

Mae Tîm Marchnata Digidol PDC yn chwilio am Fyfyrwyr PDC sydd wedi defnyddio a chael profiad o’r ystod o wasanaethau a ddarperir gan Gymorth PDC. Os ydych wedi defnyddio Gwasanaeth Iechyd, Iechyd Meddwl neu Anableddau Prifysgol De Cymru – rydym am glywed gennych!

Efallai eich bod wedi cyrchu’r gwasanaeth iechyd meddwl am gefnogaeth neu eich bod yn cael trafferth gyda’ch llwyth gwaith ac wedi ceisio cymorth. Efallai bod gennych chi brofiad personol o astudio gydag anabledd neu fod gennych chi achos penodol yr hoffech chi eiriol drosto, fel dyslecsia neu awtistiaeth.

Byddwn yn dod â'ch straeon a'ch tystebau yn fyw trwy gynnwys ysgrifenedig a fideo i ni eu dosbarthu trwy ein sianeli digidol, gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol, e-gyfathrebu a'r we.

Mae cynnwys a gynhyrchir gan fyfyrwyr yn ffordd wych o ddangos i ddarpar fyfyrwyr yr hyn y gallant ei ddisgwyl pan fyddant yn ymuno â Theulu PDC. Bydd hefyd yn eu helpu ar hyd eu taith i ddod yn fyfyriwr prifysgol.

Byddwn yn eich talu am eich amser yn ôl y gyfradd Llysgenhadon Myfyrwyr fesul awr. Anfonwch ddatganiad o ddiddordeb, ynghyd â’ch enw, cwrs a pha wasanaeth cymorth rydych wedi’i ddefnyddio i [email protected]. Bydd aelod o’r Tîm Marchnata Digidol yn cysylltu â chi.

#uniife_cymraeg #Anabledd