Cynllun Blodyn Haul Anableddau Cudd

sunflowerlanyards.jpg

Beth yw'r Blodyn Haul Anableddau Cudd?

Mae anabledd cudd yn anabledd nad yw'n weladwy neu'n amlwg ar unwaith trwy siarad â rhywun ond a all gael effaith sylweddol ar fywyd rhywun. Mae ‘anableddau cudd’ yn derm ymbarél sy’n dal sbectrwm o anableddau, a all gynnwys awtistiaeth, epilepsi, anafiadau ymennydd a gafwyd, cyflyrau iechyd meddwl, anawsterau dysgu, namau synhwyraidd a salwch cronig.

 

Ers ei lansio yn 2016, helpodd Blodyn Haul Anableddau Cudd i godi ymwybyddiaeth o anableddau cudd. Fe'i mabwysiadwyd yn fyd-eang gan brif feysydd awyr a lleoliadau ac yn y DU gan lawer o archfarchnadoedd, gorsafoedd rheilffordd a choetsys, cyfleusterau hamdden, y GIG, nifer o wasanaethau heddlu, tân ac ambiwlans, a nifer cynyddol o fusnesau bach a mawr a sefydliadau.

 

Mae gwisgo Blodyn Haul Anableddau Cudd yn dangos yn gynnil i bobl o amgylch y gwisgwr y gallai fod angen cymorth ychwanegol, help neu ychydig mwy o amser arnynt.

I ddarganfod mwy am y cynllun Blodyn yr Haul yn PDC, ewch i'n tudalen Cynllun Blodyn Haul Anabledau Cudd.

#unilife_cymareg #Anabledd