06-03-2023
Os oes angen addasiadau rhesymol penodol yn ymwneud ag anabledd arnoch ar gyfer arholiadau ysgrifenedig, mae angen cytuno ar yr argymhellion priodol a'u hychwanegu at eich Cynllun Cymorth Unigol (CCU) cyn eich arholiadau. Os nad oes gennych CCU ar hyn o bryd neu os oes angen diweddaru eich CCU, gwnewch apwyntiad gyda Chynghorydd Anabledd cyn gynted â phosibl.
Mae eich cyfadran yn gyfrifol am weithredu'r addasiadau arholiad a amlinellir yn eich CCU lle bo hynny'n berthnasol.
Yn dibynnu ar fformat penodol eich arholiadau, efallai na fydd angen / eisiau'r holl addasiadau ar eich CCU ar gyfer pob arholiad.Bydd angen trefnu cefnogaeth ymlaen llaw fel Darllenwyr, ystafelloedd ar wahân neu bapurau arholiad fformat amgen, os oes angen. Trafodwch eich gofynion addasu arholiad gyda'ch Arweinydd Cwrs/ Modiwl cyn gynted ag y bo modd, fel y gallant wneud y trefniadau angenrheidiol.
I gael rhagor o wybodaeth am addasiadau ar gyfer arholiadau sy'n gysylltiedig ag anabledd, gweler https://disability.southwales.ac.uk/anabledd/isp-cymraeg/
02-10-2023
22-06-2023
09-05-2023
02-05-2023
06-03-2023
06-03-2023
06-03-2023