02-12-2022
Mae Diwrnod Rhyngwladol Pobl ag Anableddau yn cael ei ddathlu bob blwyddyn ar 3 Rhagfyr. Mae'n ddiwrnod sy'n ymroddedig i hyrwyddo hawliau a lles pobl ag anableddau ym mhob maes o gymdeithas a datblygiad.
Gall pobl ag anableddau wynebu llawer o rwystrau yn eu bywydau bob dydd megis diffyg darpariaethau cynhwysol yn eu hamgylchedd ffisegol, agweddau cymdeithasol, neu wahaniaethu. Mae tystiolaeth yn dangos pan fydd rhwystrau i gynhwysiant yn cael eu dileu, mae'r gymuned gyfan yn elwa.
Bydd PDC unwaith eto yn cymryd rhan yn #purplelightup, mudiad byd-eang a gynlluniwyd i dynnu sylw at rymuso economaidd pobl anabl. I ddangos ein cefnogaeth i'r diwrnod, byddwn yn goleuo rhai o'n hadeiladau campws. Byddem wrth ein bodd yn gweld rhai lluniau cyfryngau cymdeithasol o'r goleuo, felly a fyddech cystal â thrydaru gan ddefnyddio'r hashnodau #pdc a #purplelightup.
Mae'r Gwasanaeth Anabledd yn darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i fyfyrwyr anabl PDC. Mae hyn yn cynnwys myfyrwyr ag anableddau corfforol, synhwyraidd, iechyd meddwl neu anweledig, anawsterau dysgu penodol (e.e., dyslecsia) ac awtistiaeth. Mae’n wasanaeth cyfrinachol lle gallwch drafod eich gofynion unigol. Gallwch gael cyngor ar ba gymorth sydd ar gael a help i wneud cais amdano.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os oes angen unrhyw gymorth yn ymwneud ag anabledd trefnwch apwyntiad gyda Chynghorydd Anabledd i drafod. Ar adeg archebu, rhowch wybod i'r Gwasanaeth Anabledd os ydych angen apwyntiad yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Sylwer, efallai y bydd angen trefnu i gyfieithydd ar y pryd fod yn bresennol.