Gofod Synhwyraidd Diogel

Mae'r tîm Lles ac Anabledd am eich croesawu i'n gofod synhwyraidd diogel newydd, prosiect peilot a gynhelir ar gampws Trefforest (H016) gyda'r gobaith o gyflwyno'r gofodau i bob campws erbyn y flwyddyn academaidd nesaf.

Gellir defnyddio'r gofod, a gynlluniwyd ar gyfer staff a myfyrwyr fel ei gilydd, ar eich pen eich hun neu mewn grwpiau bach (mae cyfyngiadau covid yn berthnasol ar hyn o bryd) ac mae yno fynediad agored gyda’r defnydd o gerdyn adnabod. Profwyd bod gofodau synhwyraidd yn tawelu pryder ac yn creu lle diogel ymhlith prysurdeb bywyd prifysgol.

Wrth i'r prosiect barhau dros y tymor nesaf byddwn yn araf adeiladu'r gofod o amgylch yr adborth a syniadau'r defnyddwyr, ond ar hyn o bryd mae'n cynnwys ardal eistedd gyfforddus, amrywiaeth o wrthrychau ysgogol synhwyraidd a goleuadau addasadwy i weddu i hwyliau ac anghenion unigol.

Byddem wrth ein boddau petaech yn dod i brofi'r gofod a gobeithio’n cael rhyddhad gan rywfaint o bwysau bywyd prifysgol, yn ogystal â chynnig adborth ar sut y gallwn dyfu a datblygu'r ardal.