Mae dechrau'r Brifysgol yn gyffrous, ond gall y newid i amgylchedd newydd fod yn llethol, yn enwedig i fyfyrwyr Awtistig. Mae'r Gwasanaeth Anabledd yn darparu cymorth ac arweiniad ychwanegol i gefnogi pontio llwyddiannus i’r Brifysgol.
Mae'n bwysig ymgysylltu â'r Gwasanaeth
Anabledd a gwneud cais am Lwfansau i
Fyfyrwyr Anabl cyn dechrau ar eich astudiaethau, er mwyn sicrhau bod
unrhyw addasiadau rhesymol a chymorth sydd eu hangen arnoch yn eu lle o'r
cychwyn cyntaf.
Os hoffech wneud apwyntiad gyda Chynghorydd Anabledd cyn i chi ddechrau ar eich cwrs, neu unwaith y byddwch yma, cysylltwchâ ni neu trefnwch apwyntiad. I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â chael cymorth anabledd, ewch i’n tudalennau dechrau arni.
Mae Digwyddiadau Pontio PDC yn rhoi cyfle ychwanegol i fyfyrwyr Awtistig a'u teuluoedd i gael gwybod mwy am PDC.
Rydym yn cynnal digwyddiadau pontio ar gyfer myfyrwyr newydd a myfyrwyr sy'n dychwelyd ym mis Medi, sy'n ceisio magu hyder a chysylltu â chymorth a gwasanaethau academaidd cyn dechrau'r tymor.
Darganfyddwch fwy ar ein tudalennau Digwyddiadau
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y digwyddiad cysylltwch â: [email protected]
Yn y cyfamser, efallai yr hoffech edrych ar yr adnoddau isod:
Mae'r tîm Lles ac Anabledd am eich croesawu i'n gofod synhwyraidd diogel newydd, prosiect peilot a gynhelir ar gampws Trefforest (H016) gyda'r gobaith o gyflwyno'r gofodau i bob campws erbyn y flwyddyn academaidd nesaf. Profwyd bod gofodau synhwyraidd yn tawelu pryder ac yn creu lle diogel ymhlith prysurdeb bywyd prifysgol.
Byddem wrth ein boddau petaech yn dod i brofi'r gofod a gobeithio’n cael rhyddhad gan rywfaint o bwysau bywyd prifysgol, yn ogystal â chynnig adborth ar sut y gallwn dyfu a datblygu'r ardal.
Mae Mentoriaid Arbenigol yn rhoi cymorth un-i-un i fyfyrwyr y mae angen cymorth arnynt i reoli eu hastudiaethau a bywyd myfyrwyr oherwydd Cyflwr Sbectrwm Awtistiaeth, gan eu helpu i gyflawni eu potensial llawn yn y Brifysgol.
I gael rhagor o wybodaeth am gael cymorth Mentora Arbenigol , trefnwch apwyntiad gyda Chynghorydd Anabledd.