Green Panorama

Anabledd

Cymorth i Fyfyrwyr Anabl

TMae'r Gwasanaeth Anabledd yn darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i, ac yn cydlynu cefnogaeth i fyfyrwyr PDC sydd ag anableddau, gan gynnwys anableddau corfforol, synhwyraidd, iechyd meddwl neu anweledig, anawsterau dysgu penodol (e.e. dyslecsia) ac awtistiaeth.

 Os ydych chi'n astudio mewn coleg partner PDC, cysylltwch â'ch coleg.

Rydym yn darparu gwasanaeth cyfrinachol lle gallwch drafod eich gofynion unigol.  Gallwn eich cynghori ynghylch pa gymorth sydd ar gael a'ch helpu i wneud cais amdano.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os oes angen cymorth sy'n gysylltiedig ag anabledd arnoch chi, cysylltwch â ni neu archebwch apwyntiad gydag Cynghorydd Anabledd i'w drafod. Rhowch wybod i ni wrth i chi drefnu apwyntiad a ydych eisiau’r apwyntiad drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg. Nodwch, efallai y bydd angen trefnu i gyfieithydd ar y pryd fod yn bresennol.

Dylid cynnal yr holl apwyntiadau a'r rhyngweithio â'r gwasanaeth anabledd yn unol â chod ymddygiad y myfyrwyr. Gall methu â chadw at god ymddygiad myfyrwyr arwain at derfynu eich penodiad a bydd yn cael ei drin fel camymddwyn.

Mae Gwasanaeth Anabledd PDC yn gwerthfawrogi eich adborth. Gall ein helpu i wella'r gwasanaeth a ddarparwn.  Gallwch anfon adborth drwy e-bost i [email protected]

Cysylltwch â ni

Mae'r Tîm Cyngor Anabledd yn gweithio o bell a bydd pob apwyntiad dros y ffôn.Os byddai'n well gennych apwyntiad trwy alwad fideo e-bostiwch [email protected]    

AZO-button-appointments-300px-CYM.png

Register Button

AZO-button-FAQs-300px-CYM.png